Rheolwr Cyfrif Gwerthiant – Prentis

Fforestfach
£5.50 yr awr
Amser Llawn
30.03.23

Mae cwmni annibynnol sy’n gwerthu caledwedd a meddalwedd cyfrifiadurol a nwyddau traul yn chwilio am Reolwr Cyfrif Gwerthiant (Prentis) i ymuno â’u tîm. Mae’r cwmni hefyd yn cynnig gwasanaethau a chyngor ar faterion perthnasol. Maent yn ailwerthwyr annibynnol sy’n gwerthu rhai o gynhyrchion cyfrifiadurol mwyaf adnabyddus y byd ac maent yn dewis y cynhyrchion a’r atebion mwyaf addas ar gyfer eu cleientiaid, er mwyn diwallu eu hanghenion.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gydwybodol a dibynadwy a byddant yn ymgymryd â thasgau o fewn y sector TG megis ateb y ffôn a gwneud galwadau i gynorthwyo cwsmeriaid gyda’u hanghenion penodol, gan feithrin eu diddordeb yn y gwasanaethau a’r cynhyrchion a gynigir gan y cwmni. Dyma gyfle cyffrous sy’n cynnig cyflog gwell na chyflog arferol Prentis!

Am ragor o wybodaeth neu os hoffech ymgeisio ar gyfer y rôl hon, ffoniwch 01792 284450 neu e-bostiwch: info@betterjobsbetterfutures.wales