Rheolwr Bar

Canol y Ddinas
£26,000 – £28,000
Amser Llawn
30.03.23

Ein prif nod yw datblygu arweinwyr sy’n angerddol ac yn ymfalchïo yn yr hyn y maent yn ei wneud. Prif ddyletswyddau’r Rheolwr Bar yw sicrhau bod y bar a phopeth cysylltiedig (pobl, cynnyrch a’r lleoliad) yn cael eu rhedeg mewn modd di-dor. Dylai’r Rheolwr Bar sicrhau ei fod yn arwain trwy esiampl trwy hybu ein safonau cyson a dangos ymrwymiad i’n nodau a’n gweledigaeth. Mae gennym ystod eang o fuddion i’w cynnig i’n gweithwyr.

Rydym yn disgwyl i chi fod yn gymwys fel Uwch Weithiwr Bar a bydd gofyn i chi ymgymryd â’r dyletswyddau isod: Rheoli Dyletswyddau, Cynnig Hyfforddiant i weithwyr newydd, Cynnig a threfnu Cymhellion, Creu Matrics Bwydlen, Rheoli Stoc (Buddsoddi, Archebu, Rheoli Llinell ac ati), Archebu Nwyddau Traul, Rheoli Lefelau PAR, Cynnal Rhestr Wirio, Gweithredu’r Polisi Stocio, Archwilio’r Bar.

Am ragor o wybodaeth neu os hoffech ymgeisio ar gyfer y rôl hon, ffoniwch 01792 284450 neu e-bostiwch: info@betterjobsbetterfutures.wales