Prentis Cyflogres

Abertawe
£4.81 yr awr i gychwyn
Amser Llawn
24.3.23

Rydym yn chwilio am brentis cyflogres a gweinyddu i ymuno â’r tîm. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn treulio llawer o’i amser yn ennill profiad ymarferol yn ein swyddfa, fel rhan o dîm cyflogres bach. Fel rhan o’r rôl, byddwch yn gweithio at ennill cymhwyster gweinyddu busnes yn ogystal â derbyn hyfforddiant gan ddarparwr hyfforddiant lleol. Rydym yn angerddol am ddarparu hyfforddiant cynhwysfawr sy’n hybu twf gyrfaol, er mwyn sicrhau dyfodol disglair i’n gweithwyr, boed hynny gyda ni neu yn rhywle arall. Rydym yn dîm agos iawn sy’n rhoi croeso cynnes i weithwyr newydd, ac rydym yn rhannu ein profiad a’n gwybodaeth ag eraill.

Ar ddiwedd eu llwybr prentisiaeth, mae llawer o’n prentisiaid wedi sicrhau swyddi amser llawn o fewn ein cwmni, felly mae cyfle i sicrhau gyrfa ar gael i’r prentisiaid sy’n gwneud y mwyaf o’r contract 12 mis. Byddwch yn gwneud ffrindiau newydd ac yn dysgu mewn amgylchedd ymlaciedig a phroffesiynol. Byddwch hefyd yn ymgymryd ag ystod eang o waith cyfrifyddu mewn amgylchedd prysur sy’n ehangu’n barhaus, er mwyn dechrau gyrfa hirdymor. Dylai’r ymgeisydd delfrydol fod yn hyderus a chroesawgar wrth siarad ag eraill ar y ffôn ac wrth ddelio â chleientiaid yn gyffredinol. Bydd ymgeiswyr hefyd yn drefnus, effeithlon a brwdfrydig.

Dyletswyddau dyddiol y rôl: mewnbynnu data cleientiaid i’r system gyflogres; prosesu gweithwyr newydd a gweithwyr sy’n symud ymlaen i’r cwmni; cynnal a chadw a diweddaru cofnodion y gyflogres; paratoi adroddiadau ar y gyflogres a slipiau cyflog ac ati i’w hanfon ar gleientiaid; cynorthwyo staff gyda chofrestru pensiwn yn awtomatig a datganiadau (i’r rheolwr pensiynau); ateb ffôn y swyddfa; prosesu anfonebau gwerthiant; delio â phost sy’n cyrraedd a gadael y swyddfa; cydymffurfio ag arferion; cymryd rhan weithredol mewn rheoli credyd. Oriau gweithio’r cwmni ar ddydd Llun i ddydd Iau yw 8:45am tan 5pm, ac 8:45am tan 3:45pm bob dydd Gwener. Byddwch yn cael awr o saib dros ginio.

Am ragor o wybodaeth neu os hoffech ymgeisio ar gyfer y rôl hon, ffoniwch 01792 284450 neu e-bostiwch: info@betterjobsbetterfutures.wales