Porthor Cegin
Abertawe
£5.28 – £10.42 yr awr yn dibynnu ar oedran
Amser Llawn
09.06.23
Rydym yn chwilio am rywun i gyflawni rôl Porthor Cegin o fewn ein tîm. Rydym am gyflogi unigolyn effeithlon, trefnus a brwdfrydig. Bydd dyletswyddau’r rôl yn cynnwys ymgymryd â thasgau glanhau cyffredinol mor effeithiol ac effeithlon â phosib, gan sicrhau bod potiau ac ardaloedd gwaith yn lân iawn. Bydd deiliad y swydd hefyd yn gorfod cynnal a chadw storfeydd a dilyn mân gyfarwyddiadau ar gyfer paratoi bwyd.
Rydym yn chwilio am rywun sy’n medru cynnal y safon uchaf o ran hylendid personol bob amser, gan ffynnu fel rhan o dîm ac ar ei liwt ei hun. Mi fydd hefyd yn hapus i dderbyn hyfforddiant gan y Prif Gogydd. Nid oes angen unrhyw brofiad ar gyfer y rôl hon.
Am ragor o wybodaeth neu os hoffech ymgeisio ar gyfer y rôl hon, ffoniwch 01792 284450 neu e-bostiwch: info@betterjobsbetterfutures.wales