Pennaeth Addysg – Academi
Glandŵr
£35,000 – £40,000
Amser Llawn
30.03.23
Rydyn yn edrych am Bennaeth Addysg i ymuno â’r tîm. Fe fydd dyletswyddau’n cwmpasu sicrhau bod addysg yr Academi yn adlewyrchu’r strategaeth a pherfformiad a osodwyd yng nghynllun perfformiad yr Academi. Fe fydd ymgeiswyr llwyddiannus yn darparu adroddiadau cynnydd addysg I bob chwaraewr yn yr Academi, a chyfarthrebu â rhieni/gwarcheidwaid os yw’n addas, sicrhau bod y rhaglen addysg a’i dogfennaeth gysylltiedig yn bodloni gofynion yr EPPP, a darparu adolygiadau perfformiad perthnasol i bob cyfnod ac ar amser a bennir gan reolau datblygu EPPP.
Mae dyletswyddau arall y rôl yn cynnwys rheoli a storio data sy’n ymwneud â chynnydd academaidd chwaraewyr yn unol â’r deddf Diogelu Data 2018; mynychu hyfforddiant wedi’u darparu gan FA/PL/EFL/LFE i gefnogi chwaraewyr yr Academi; cynllunio a hwyluso gweithgareddau cyfoethogi a cefnogi cynnydd cyfannol y chwaraewyr; datblygu a chynnal cysylltiadau gyda ysgolion a rhieni’r chwaraewyr i sicrhau tryloywder yn nodau ac amcanion y rhaglen.
Bydd gofyn i chi hefyd gefnogi’r Tîm Gofal Chwaraewyr gyda dysgu ychwanegol, ceisiadu UCAS, ysgoloriaethau i chwaraewyr sy’n gwneud cynnydd tu fewn i’r clwb a’r rhai na chynigir contractau iddynt; cynnal a datblygu cyswllt gyda adrannau addysg y cyrff cenedlaethol a chyfarthrebu pan fydd chwaraewyr yn mynychu gosodiadau a gwersylloedd cenedlaethol; dangos safonau ymddygiad cyson uchel a gweithredu o fewn paramedrau ddeddfau’r gêm, reolau’r Gymdeithas Bêl-droed, yr Ywch Gynghrair a’r EFL; cymryd rhan mewn datblygiad proffesiynol parhaus; a chysylltu â’r Academi DSO a Thîm Gofal Chwaraewyr ynghylch unrhyw faterion sy’n ymwneud â lles chwaraewyr neu staff.
Am ragor o wybodaeth neu os hoffech ymgeisio ar gyfer y rôl hon, ffoniwch 01792 284450 neu e-bostiwch: info@betterjobsbetterfutures.wales