Nicole Lee – Straeon Gyrfa

“Edrychwch i’r dyfodol a chanolbwyntiwch arnoch chi eich hun, eich nodau a’r hyn sydd yn eich gwneud yn hapus.”

 

Cawsom sgwrs â Nicole, Hyfforddwr Gyrfa, ar sut mae meithrin sgiliau a pherffeithio eich ymagwedd bersonol yn hanfodol i ddod o hyd i’r llwybr cywir. 

A wnes di ddilyn llwybr addysg bellach/uwch?

Fe wnes i fwynhau fy amser yn yr ysgol uwchradd ac fe astudiais gyrsiau Safon Uwch mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Astudiaethau Crefyddol, Bioleg a Bagloriaeth Cymru. Roeddwn i am sicrhau gyrfa ym maes gofal cymdeithasol felly fe benderfynais astudio radd mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe. Dyma lle gwnes i ddarganfod fy angerdd am gefnogi pobl; ac ochr yn ochr â fy astudiaethau academaidd fe enillais brofiad helaeth trwy weithio yn y sector ar brofiad gwaith. Fe fwynheais weithio â phobl ifanc ac roeddwn i’n gwybod mai darparu cymorth ystyrlon i unigolion o’r fath roeddwn i am ei wneud fel gyrfa hirdymor.

Pa lwybr wnes di ddilyn ar ôl cwblhau dy addysg?

Ar ôl cwblhau fy nghwrs, penderfynais fy mod am sicrhau rôl yn cefnogi pobl ifanc. Sicrheais swydd fel Prif Weithiwr gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Fe weithiais ar brosiect o’r enw ‘Inspire to Achieve’. Yn y rôl hon, roeddwn i’n gweithio mewn ysgolion uwchradd ac yn helpu disgyblion Blwyddyn 10 ac 11 i fynd i’r afael ag unrhyw rwystrau i addysg, gan leihau’r risg o ddod yn NEET (ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant). Fe wnes i fwynhau’r rôl hon yn fawr iawn, ac roeddwn yn gyfrifol am ddarparu cyngor a chymorth iddynt ar eu hopsiynau ôl gadael ysgol, ac roeddwn hefyd yn darparu cymorth lles, emosiynol ac ymddygiadol i sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi yn llawn er mwyn cyflawni eu potensial llawn. Yn ogystal, roeddwn i’n gyfrifol am sicrhau bod myfyrwyr yn ymgysylltu ag addysg trwy ddarparu sesiynau cymorth un-i-un rheolaidd, trefnu tripiau dydd a datblygu rhaglenni haf.

Ym mha ffordd mae dy lwybr gyrfa wedi datblygu?

Ar ôl 3 blynedd yn y rôl, penderfynais fy mod am symud ymlaen – fe wnes i fwynhau darparu cymorth un-i-un dwys ac agweddau cynllunio gyrfa y rôl. Felly chwiliais am gyfle addas lle gallwn weithio’n agos â nifer cyson o gleientiaid. Fe ddes i o hyd i rôl Hyfforddwr Gyrfa yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, y rôl berffaith i mi ddefnyddio’r sgiliau yr oeddwn wedi’u hennill a chyfle i mi ddatblygu ymhellach fy ngwybodaeth a’m sgiliau mewn perthynas â chefnogi mwy o gleientiaid ar sail fwy dwys. Yn chwimwth a chyffrous, fe wnes i ymgeisio ar gyfer y rôl a llwyddais i sicrhau’r swydd. Cyn gynted ag ymunais â Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, roeddwn i wrth fy modd â’r amgylchedd prysur, a’r dasg heriol, ond gwerth chweil, o ddefnyddio fy sgiliau i gefnogi gwahanol ddemograffeg.

Oes un peth yr hoffet ti fod wedi ei wybod pan oeddet ti’n iau?

Hoffwn pe bawn wedi gwybod am yr ystod eang o lwybrau gyrfa oedd ar gael, yn hytrach na mynd yn syth i’r brifysgol. Ar ôl ennill graddau da yn yr ysgol, cymerais yn ganiataol mai’r dewis naturiol oedd myn di’r brifysgol, a doeddwn i ddim wir yn ymwybodol o’r opsiynau eraill oedd ar gael. Pe bawn i wedi gwybod am yr opsiynau eraill oedd ar gael, efallai y byddaf wedi dewis astudio prentisiaeth ac wedi mynd yn syth i fyd gwaith neu archwilio cyrsiau eraill. Rwy’n sicr yn hapus gyda fy newisiadau a’r hyn rydw i wedi ei gyflawni, ond credaf y byddaf wedi dewis opsiwn gwahanol pe bawn wedi gwybod am yr opsiynau eraill oedd ar gael i mi.

Canllaw gorau wrth ymgeisio am swyddi?

Mae llawer o bobl yn poeni am y broses ymgeisio a chreu argraff dda ar y panel cyfweld trwy frolio am eu sgiliau a’u profiadau, ond, mae’r un mor bwysig cofio mai proses ddwy ffordd yw hon, a rhaid i chi asesu ac ystyried y sefydliad rydych chi’n gwneud cais i weithio iddo. Er bod angen i’r swydd fod yn addas ar eich cyfer chi – rhaid hefyd i gyfrifoldebau a diwylliant y gweithle gyd-fynd â’ch gwerthoedd, sgiliau a’ch profiad chi. Rhaid i chi ddeall yr amgylchedd gwaith y mae’r cwmni yn ei feithrin, ac a allwch chi weld eich hun yn ffitio i mewn a gwneud cyfraniad gwerthfawr at hyn.

Cyngor gorau?

Mae cymharu eich hun ag eraill yn difa llawenydd; efallai mai’r peth normal i chi ei wneud yw cymharu eich hun ag eraill, hynny yw cymharu eich swydd â swyddi eich ffrindiau, cyfoedion, teulu, ond rhaid i chi gofio bod pawb ar lwybr a thaith unigol. Mae pawb ar gyfnod gwahanol o’u bywydau personol a phroffesiynol, felly Edrychwch i’r dyfodol a chanolbwyntiwch arnoch chi eich hun, eich nodau a’r hyn sydd yn eich gwneud yn hapus.