Matt Richards – Stori Gyrfa
“Peidiwch â gadael i lwyddiant fynd i’ch pen, a pheidiwch byth â gadael i fethiant eich clwyfo – daliwch ati i ymladd mor galed ag y gallwch“
Eisteddon ni gyda’r Cydlynydd prosiect, Matt, a siaradon ni am sut mae dod o hyd i’r llwybr cywir yn cynnwys archwilio sawl opsiwn gwahanol ar hyd y ffordd. Y canlyniad? Stori gyrfa darostyngol sy’n dangos mai dycnwch ac aros yn driw i chi’ch hun yw’r pethau pwysicaf wrth gyflawni eich nodau.
A wnaethoch chi ddilyn llwybr addysg uwch neu bellach?
Ces i amser caled yn ymgysylltu ag addysg yn yr ysgol, ac yn anffodus fe wnes i fethu y rhan fwyaf o fy nghymwysterau TGAU. Doedd gen i ddim cynllun wrth gefn felly penderfynais aros yn chweched dosbarth yr ysgol i astudio cwrs BTEC mewn Busnes a Chyllid. Fel rhan o’r cwrs, ces gyfle i gael rhywfaint o annibyniaeth a chyfrifoldeb, ac am y tro cyntaf yn fy mywyd, ro’n i’n mwynhau amgylchedd addysgol! Ar ôl cwblhau’r cwrs un-blwyddyn hwn yn llwyddiannus, ro’n i‘n awyddus i barhau gyda fy addysg, felly penderfynais astudio cwrs Teithio a Thwristiaeth yng Ngholeg Gorseinon. Er bod hwn yn sector yr oedd gen i ddiddordeb mawr ynddo, nid oedd cynnwys y cwrs yn fy niddori, ac felly penderfynais ailystyried fy opsiynau. Ro’n i wedi bod yn gweithio mewn rolau gwasanaeth cwsmeriaid rhan-amser amrywiol ers troi’n 16 oed, ac ro’n i wedi datblygu rhai sgiliau trosglwyddadwy a gwerthfawr, ac roeddwn i’n teimlo fy mod yn barod am fyd gwaith. Felly, penderfynais adael y Coleg i chwilio am gyfleoedd cyflogaeth lle gallwn ddefnyddio fy sgiliau a’m profiad i ddechrau fy nhaith gyrfa!
Pa ffurf gymerodd eich gyrfa ar ôl eich addysg?
Ar ôl gadael y Coleg, sicrheais swydd lletygarwch rhan-amser, ac ro’n i’n dwlu ar y rôl hon! Ces i gyfle i ymgymryd â llawer o gyfrifoldebau a gosod nodau gyrfa clir i weithio tuag atynt. Fodd bynnag, nid oedd oriau amser llawn ar gael, ac ar ôl 4 blynedd, gadewais i fynd i chwilio am swydd amser llawn. Fy swydd amser llawn gyntaf oedd Cynorthwyydd Gwerthu mewn siop chwaraeon; ro’n i wrth fy modd yn gweithio mewn amgylchedd manwerthu, ac ro’n i’n manteisio i’r eithaf ar unrhyw gyfleoedd i werthu mwy o nwyddau a gwella perfformiad. Symudais
ymlaen yn gyflym i rôl Rheolwr yr Adran Ffitrwydd, ac ro’n i’n mwynhau datblygu’r wybodaeth arbenigol sydd ei hangen ar gyfer y rôl a chael cyfle i reoli staff eraill, ac fe wnes i hyn â brwdfrydedd a dycnwch. Ar ôl 2 flynedd, cymerwyd y siop drosodd gan gwmni arall felly diddymwyd yr adran ffitrwydd. Ces i fy symud i adran ddillad ac fe ro’n i’n ei chael hi’n anodd symud ymlaen i rôl ystyriol. Felly, o ganlyniad, gadewais y cwmni a symud i rôl ym maes gwerthu dros y ffôn; cyfle gwych i ennill profiad mewn sector newydd sbon. Roedd amgylchedd telewerthu yn hynod heriol, cystadleuol ac ysgogol! Ar ôl deufis, ro’n i’n hapus iawn i gael fy nyrchafu yn yr adran ro’n i’n gweithio ynddi. Yn anffodus, ar ôl dwy flynedd a hanner, aeth y cwmni allan o fusnes a chefais fy niswyddo. Fe effeithiodd hyn arnaf yn fawr ac am y tro cyntaf erioed fe brofais sut oedd hi i fod mewn dyled; roeddwn i newydd symud allan o fflat fy ffrind ac ro’n i’n cael amser caled yn ceisio cael dau ben llinyn ynghyd.
Ar ôl cyfnod heriol iawn o ran amgylchiadau personol, fe es i i ffair yrfaoedd lle llwyddais i sicrhau rôl newydd fel Cynghorydd Namau! Fe ffynnais yn yr amgylchedd technegol, strwythuredig a oedd yn canolbwyntio ar derfynau amser tynn, ac ar ôl 2 flynedd yn y rôl, ro’n i’n hyderus ac yn barod i gymryd cyfle dilyniant fel Rheolwr Dan Hyfforddiant mewn Melin Llifo, a oedd yn golygu adleoli i Bowys. Roedd hwn yn gam mawr i fi, ond roedd yn gweddu i’m hamgylchiadau personol, a manteisiais ar y cyfle i’r eithaf. Drwy gydol yr 18 mis a dreuliais yn y rôl, ro’n i’n ofalwr di-dâl ar gyfer fy nghymydog, felly pan welais gyfle Rheolwr Gofal ac i deithio ledled Cymru a Chanolbarth Lloegr, teimlais mai dyma oedd y cam naturiol nesaf i fi. Llwyddais i sicrhau’r rôl a dysgais lawer am reoli pobl, recriwtio a darparu gwasanaeth da. Ro’n i’n falch o fod yn hwyluso a grymuso pobl yn eu bywydau a ches fy enwebu ar gyfer Gwobr Rheolwr Gofal y Flwyddyn! Ar ôl 6 blynedd yn y rôl, yn gweithio 60-70 awr yr wythnos, fe amddifadais fy mywyd personol braidd, ac ro’n i’n flinedig iawn drwy’r amser; doedd gen i ddim byd ar ôl i’w roi, ac roeddwn i’n gwybod bod angen i mi wneud newidiadau ac ailstrwythuro fy amgylchiadau.
Ym mha ffordd mae eich taith gyrfa wedi datblygu?
Yn 2010, derbyniais swydd newydd fel Mentor Lleoliad gyda A45, ac ro’n i’n rhan o dasglu cymunedol a oedd yn cefnogi oedolion ifanc NEET i benderfynu ar eu camau nesaf. O’r diwedd teimlais fy mod wedi dod o hyd i sector lle gallwn ddefnyddio’r sgiliau a’r profiad a enillais ar draws ystod eang o rolau trwy gydol fy ngyrfa. Arhosais gyda’r cwmni am 3 blynedd cyn gweithio mewn amrywiaeth o rolau mentora, a ddatblygodd fy nealltwriaeth o’r sector cyflogadwyedd ac, yn bwysicach oll, anghenion cleientiaid. Ar ôl treulio blynyddoedd i ffwrdd o’m cartref, penderfynais symud yn ôl i Abertawe. Fe lwyddais i sicrhau rôl gyda TBG yn cefnogi pobl ddi-waith hirdymor i oresgyn rhwystrau i gyflogaeth, a gweithiais gydag ystod eang iawn o bobl, pob un ag anghenion a nodau penodol. Ar ôl i gyllid y rhaglen ddirwyn i ben, ro’n i’n chwilio am waith unwaith eto a llwyddais i sicrhau rôl gyffrous iawn fel Hyfforddwr Gyrfa gyda Choleg Gŵyr Abertawe. Ro’n i’n dwlu ar y rôl hon ac ymagwedd gyfannol, flaengar Gwell Swyddi, gwell Dyfodol yn gyffredinol. Ar ôl dim ond 2 flynedd ces fy nyrchafu i rôl Cydlynydd Prosiect, a’r gwir yw, dwi’n caru fy swydd; dw i’n ddiolchgar iawn fy mod yn gweithio i sefydliad positif a chynhwysol sydd â thîm ymroddedig sy’n croesawu ac yn gwerthfawrogi pob barn. Maen nhw’n angerddol am fodloni anghenion ac uchelgeisiau eu cleientiaid.
Oes unrhyw benderfyniadau gyrfa rydych chi’n eu difaru?
Dw i’n difaru peidio â gweithio’n galetach yn yr ysgol a gwerthfawrogi fy addysg, er mwyn sicrhau mwy o gymwysterau TGAU. Gan nad oedd gen i lawer o gymwysterau, fe wnaeth fy nhal yn ôl braidd yn gynnar yn fy ngyrfa, gan nad oeddwn i’n diwallu anghenion addysgol y cyflogwyr. Gallwn i fod wedi rhoi hwb i’m gyrfa yn gyflymach pe bawn i wedi mapio fy ngyrfa yn well, yn hytrach na brysio i wneud penderfyniadau ynghylch fy nyfodol. Dw i ddim yn oedi wrth feddwl am y pethau dw i’n eu difaru; dw i’n ceisio dysgu o’m camgymeriadau a gwneud gwelliannau lle bo’n bosib i sicrhau fy mod yn parhau i symud ymlaen!
Beth yw’r un peth rydych chi’n difaru peidio â gwybod pan oeddech chi’n ifancach ?
Pwysigrwydd dysgu seiliedig ar waith! Mae gen i un cymhwyster Lefel 2, dau gymhwyster Lefel 3 ac un cymhwyster Lefel 4, ac fe enillais i nhw i gyd trwy ddysgu seiliedig ar waith! Pe bawn i’n ymwybodol i’r cymwysterau hyn yn gynharach, byddwn i’n sicrhau wedi manteisio arnynt i ganfod fy nghryfderau a’m gwendidau yn well, gan deimlo’n fwy hyderus wrth wneud penderfyniadau gyrfa.
What is your ultimate piece of advice?
Credwch ynoch chi’ch hun a pheidiwch byth â rhoi’r gorau i wireddu eich breuddwydion; mae llwyddiant bob tro yn dilyn siomedigaethau. Ond peidiwch â gadael i lwyddiant fynd i’ch pen, a pheidiwch byth â gadael i fethiant eich clwyfo – daliwch ati i ymladd mor galed ag y gallwch.