Julie Bowen – Stori Gyrfa

“Credwch y gallwch ac fe wnewch”

Eisteddon ni lawr gyda Hyfforddwr Gyrfa, Julie, a siarad am sut mae’ch gweithredoedd yn dibynnu ar eich cred a sut mae’ch llwyddiant yn dibynnu ar eich gweithredoedd. Y canlyniad? Hanes gyrfa craff ac ysbrydoledig i’n hatgoffa bod rhaid i ni fod y gorau y gallwn fod er ein mwyn ni’n hunain, a’r mwyaf caled rydych yn gweithio y mwyaf ffodus y byddwch.

Gawsoch addysg bellach neu addysg uwch?

Yn yr ysgol roeddwn i bob amser am fod yn athrawes Ymarfer Corff, ond methes i’r arholiad mathemateg Lefel O (TGAU) a chymryd nad oedd hwn yn ddewis gyrfa posibl i mi mwyach.  Yn lle ailsefyll yr arholiad, dilynes i fy ffrind a gwneud cais i astudio Therapi Harddwch a Thrin Gwallt yng Ngholeg Technegol Pontypridd.  Fe wnes i gwblhau’r cwrs ond roeddwn i’n gwybod ym mer fy esgyrn nad dyma beth roeddwn i am ei wneud.  Symudes i i Lundain yn fuan ar ôl gorffen a gweithio mewn swyddi gwahanol, ond roeddwn i’n teimlo’n rhwystredig oherwydd doeddwn i ddim yn gwneud yn union beth roeddwn i eisiau ei wneud, a doedd fy ngyrfa ddim yn mynd i’r cyfeiriad roeddwn i am iddi fynd.  Ond fy mlaenoriaeth ar y pryd oedd y pethau ymarferol oherwydd roedd gen i forgais i’w dalu, a cholles i’r awydd i wthio fy ngyrfa yn ei blaen.  Symudes i nôl i Gymru gyda fy ngŵr ac am y blynyddoedd nesaf fe wnes i lawer o swyddi rhan-amser a magu 3 o blant yr un pryd – amser hyfryd ond brysur tu hwnt!  Wrth edrych yn ôl, dylwn i fod wedi mynd yn ôl i’r Coleg, ond ces i fy nal yn y rôl o fod yn fam a, heb unrhyw gyngor gyrfaoedd dibynadwy, roeddwn i’n ansicr ynghylch beth i’w wneud nesaf o ran gyrfa.  Roeddwn i am gyflawni cymaint mwy ond doeddwn i ddim yn gwybod sut i wneud hynny.

Oedd eich cyfeiriad gyrfa/uchelgeisiau wedi newid ar ôl cael plant?

Pan oedd fy mhlant mewn addysg amser llawn, roeddwn i am gael fy ngyrfa yn ôl ar y trywydd iawn ac fe wnes i ychydig o waith gwirfoddol gyda WISE, yn gweithio gydag oedolion ag anableddau dysgu.  Ces i gynnig swydd amser llawn fel Hyfforddwr Swyddi yn gyflym iawn, yn helpu pobl sy’n chwilio am swyddi yn eu lleoliadau.  Treulies i 6 mlynedd yn WISE a mwynhau gweithio mewn rôl gynghori yn fawr iawn, yn helpu pobl i wireddu eu potensial. Ar ôl WISE fe wnes i wneud cais llwyddiannus i weithio gyda Gyrfa Cymru a threulies i’r 12 mlynedd nesaf mewn swyddi amrywiol. Fy hoff rôl oedd gweithio gyda’r prosiect ‘Porth Ieuenctid’ gyda chleientiaid NEET (y rhai nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant) a oedd yn rhoi llawer o foddhad i mi.  Roeddwn i’n dwlu helpu’r bobl ifanc, yn gosod nodau cyraeddadwy iddyn nhw a’u gweld nhw’n goresgyn rhwystrau mawr i’w cyflawni yn aml iawn.  Ces i deimlad mawr o falchder yn gweld y bobl ifanc yma yn llwyddo, ac roeddwn i’n gwybod o’r diwedd mai dyma’r rôl iawn i mi.  Ar ôl Gyrfa Cymru fe wnes i weithio i Goleg Gŵyr fel Swyddog Datblygu Menter.  Fe weithies i yn yr ysgolion yn darparu gweithgareddau menter i’r disgyblion, eu helpu i feithrin sgiliau a rhinweddau er mwyn iddyn nhw allu pontio’n rhwydd i’r gweithle.  Roeddwn i’n dwlu ar y swydd ‘ma, ond ar ôl 4 blynedd yn y rôl fe ddaeth y cyllid i ben, a chefais fy ngadael unwaith eto yn ysteried fy opsiynau. Gwnes i gais am swydd Cynghorydd Recriwtio gyda Gwell Swyddi Gwell Dyfodol gan fy mod yn teimlo ei fod yn gyfle delfrydol i defn

yddio’r sgiliau a’r profiad roeddwn i wedi’u hennill. Roeddwn i wrth fy modd i gael cynnig y rôl, a mwynheais y cyfle i barhau i ryngweithio â chyflogwyr. Fodd bynnag, roeddwn i wir yn colli’r rhyngweithio 1-i-1 gyda chleientiaid sydd angen cyngor ac arweiniad, felly pan ddaeth cyfle Hyfforddwr Gyrfa i fyny neidiais arno, ac roeddwn i’n llwyddiannus! Rwy’n teimlo bod y rôl hon yn defnyddio fy holl gryfderau, a dyma lle gallaf wneud y gwahaniaeth mwyaf. Rwy’n cael y boddhad mwyaf pan allaf gefnogi cleient i nodi eu cryfderau, gwneud y mwyaf o’u potensial ac archwilio cyfleoedd cyffrous sy’n cyd-fynd â’u holl sgiliau trosglwyddadwy. Gallaf wastad dweud pan fydd cleient yn gyffrous am ei rôl: mae iaith eu corff yn newid yn gadarnhaol, ac maent yn dechrau gwenu, ac rwy’n gwybod bod gennym ni rywbeth i allu adeiladu arno! Mae’r rôl hefyd yn rhoi’r cyfle i mi gyflwyno sesiynau grŵp, rhywbeth rwy’n mynhau yn fawr, ac sy’n bodloni’r diddanwr rhwystredig tu fewn i fi!!

 

Oes unrhyw beth yr hoffech chi fod wedi’i gwybod pan oeddech chi’n iau?

Hoffwn i fod wedi gwybod, er nad oeddwn i yn y swydd roeddwn i am fod ynddi, roeddwn i dal yn ennill sgiliau defnyddiol iawn a sgiliau trosglwyddadwy a fyddai’n fy rhoi mewn sefyllfa dda ar gyfer unrhyw swyddi yn y dyfodol.  Doedd trin gwallt ddim yn yrfa i mi yn bendant, ond fe wnes i feithrin sgiliau hanfodol mewn gwasanaeth cwsmeriaid, datrys problemau a chyfathrebu effeithiol.  Roeddwn i bob amser dan yr argraff fy mod i ddim yn ddigon da ac roeddwn i’n credu hynny hyd nes i mi ddechrau canolbwyntio ar fy nghryfderau yn hytrach na’m gwendidau.  Wnes i ddim dilyn y llwybr AU ffurfiol a chael gradd, ond yn hytrach dilyn llwybr ychydig bach yn wahanol a gwneud cyrsiau Prifysgol Agored amrywiol a llawer o ddatblygiad proffesiynol parhaus.  Byddai wedi bod yn braf gwybod ei bod hi’n iawn i beidio â dilyn y dorf a gwneud beth mae pawb arall yn ei wneud oherwydd dydy hynny ddim bob amser y peth iawn neu’r peth gorau i chi.  Does dim cyfrinach i lwyddiant; rwy’n credu’n gryf eich bod chi’n creu eich cyfleoedd eich hun, felly yn lle siarad amdano – ewch amdani!

Ydych chi wedi gwneud unrhyw benderfyniadau gyrfa rydych yn eu difaru?

Dwi’n ceisio peidio difaru am unrhyw benderfyniadau dwi wedi’u gwneud oherwydd dwi wedi cymryd rhywbeth o bob profiad, ond dwi’n difaru ryw ychydig peidio â mynd i’r Brifysgol i wneud fy TAR.  Treulies i gryn dipyn o amser yn meddwl pa mor wahanol y byddai fy mywyd wedi bod pe byddwn i wedi mynd i’r Brifysgol, a’r teimlad hwn o ‘beth os’ sydd wedi bod yn anodd i gael gwared ag ef.  Er na es i i addysg uwch, bues yn ffodus iawn i gael (a chael o hyd) gyrfa llawn boddhad mewn sector dwi’n teimlo’n angerddol iawn amdano.  Byddwn i’n dweud wrth unrhyw un sydd mewn sefyllfa debyg nad yw’ch bywyd chi ar ben dim ond oherwydd eich bod chi heb gyflawni un neu ddau o’ch nodau gyrfa.  Mae bywyd yn heriol ac yn annisgwyl, ac efallai pe byddwn i wedi mynd i’r Brifysgol, fyddai’r wybodaeth, y profiad na’r ddealltwriaeth ddim gen i, sef y pethau sydd wedi fy ngalluogi i fanteisio ar rai cyfleoedd arbennig.  Mae’r potensial gan bawb i wneud rhywbeth gwych, ond efallai nad yw hynny’r union beth roeddech chi wedi meddwl neu obeithio ei wneud, ond dyw hynny ddim yn golygu ei fod yn llai gwych!

Y cyngor gorau ar gyfer gwneud cais am swyddi?

Rwy’n gredwr mawr mewn gwaith gwirfoddol oherwydd mae fy rôl gwirfoddoli wedi rhoi cyfle i mi roi cynnig ar fath penodol o yrfa cyn ymrwymo i’r yrfa honno.  Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o gael profiad gwerthfawr a dysgu sgiliau hanfodol, ac mae hefyd yn rhoi digon o gyfle i arddangos rhinweddau dymunol megis ymrwymiad a brwdfrydedd.  Roedd gwirfoddoli wedi rhoi llawer o hyder i mi a theimlad o bwrpas ac roedd hynny wedi fy helpu i gyrraedd lle rydw i heddiw.  Pan oeddwn i’n iau, doedd dim llawer o gymorth gyrfaoedd ar gael ond erbyn heddiw mae cymaint o wasanaethau cymorth gyrfaoedd ar gael sy’n bar

od ac yn aros i helpu pobl.  Peidiwch â bod ofn cyfaddef bod angen cymorth arnoch chi a pheidiwch â gadael i’r ofn o fethu llywio eich dyfodol.  Siaradwch â chynifer o bobl â phosibl am eu teithiau gyrfa ac ystyried pob opsiwn.  Pan ddewch chi ar draws swyddi sydd i’w gweld yn rhai sy’n allan o’ch cyrraedd, cymerwch amser i geisio gwybod rhagor; byddwch yn gallu gwneud penderfyniadau llawer mwy gwybodus am eich gyrfa a’ch dyfodol, ac mae’n rhaid bod hynny’n beth da!

Beth yw’ch gair o gyngor pwysicaf?

Peidiwch â gadael i fethiannau bach, fel methu arholiad, eich rhwystro rhag dilyn eich breuddwydion a chyrraedd eich nod.  Mae’n rhaid i chi feddwl am y darlun mwy a bod yn uchelgeisiol; efallai na allwch chi wneud yr hyn rydych am ei wneud yn syth, ond byddwch yn amyneddgar.  Os ydych chi’n gweithio’n galed, ac yn parhau’n frwdfrydig, gallwch chi gyrraedd eich nod.  Wnes i ddim llwyddo i fod yn athrawes, ond mae llawer o’r swyddi a wnes i wedi cynnwys rhyw fath o addysgu, ond ddim yn yr ystyr traddodiadol.  Mae fy ngyrfa gyrfa wedi bod yn seiliedig ar addysg, annog pobl a’u helpu i gredu ynddyn nhw eu hunain.  Y gwir amdani yw doeddwn i ddim yn credu yn fy ngallu fy hun.  Bu newid pendant yn fy agwedd wrth i mi fynd yn hŷn ac erbyn hyn rwy’n canolbwyntio mwy ar fy nghryfderau, ac rwy’n ceisio defnyddio pob sefyllfa, boed yn gadarnhaol neu’n negyddol, fel profiad defnyddiol y galla i ddysgu ohono.  Os yw pethau heb weithio allan yn y ffordd roeddech chi wedi’u bwriadu, dyw hynny ddim yn golygu na all y dyfodol fod yn well na’r hyn roeddech chi wedi gobeithio!