Hayley Davies
“Os ydych chi’n gweithio’n galed ac yn driw i chi’ch hun, gall pethau anhygoel ddigwydd”
Cawsom sgwrs gyda’r Hyfforddwr Gyrfa, Hayley Davies yn ddiweddar, a buom yn trafod sut mae pob diwrnod yn gyfle i newid eich bywyd, a’r ffordd y gallwch ddysgu gwersi o’ch camgymeriadau. Canlyniad y sgwrs? Stori yrfa ysgogol sy’n profi bod angerdd, hunan-gred a dilysrwydd yn gynhwysion allweddol ar gyfer sicrhau gyrfa lwyddiannus.
A wnes di ddilyn llwybr addysg bellach/uwch?
Fe es i i’r coleg ar ôl gadael yr ysgol, ond ar ôl blwyddyn o astudio, fe benderfynais chwilio am waith amser llawn, felly wnes i adael addysg yn llwyr er mwyn gweithio fel Cynorthwyydd Gweinyddol i’r Gwasanaeth Sifil. Treuliais chwe blynedd yn y rôl hon cyn i mi gael fy niswyddo; ond yn hytrach nag ystyried hyn fel pwynt isel o’m gyrfa, fe welais fel cyfle i newid llwybr gyrfa ac i feddwl am yr hyn ro’n i wir eisiau ei wneud yn y dyfodol. Ro’n i wastad wedi eisiau darparu cyngor a chymorth i bobl sy’n agored i niwed, ac roeddwn i’n angerddol am weithio o fewn y sector, yn gweithio er mwyn effeithio’n bositif ar fywydau pobl. Es i yn ôl i’r coleg i gwblhau cwrs mynediad gyda’r nod, rhyw ddiwrnod, o ennill gradd mewn Lles ac Iechyd Cymdeithasol. Ochr yn ochr â’r cwrs, fe wnes i wirfoddoli gyda sefydliad lleol i gefnogi mamau sengl sy’n agored i niwed, gan ddarparu cymorth a mentora iddyn nhw. Roedd hon yn rôl bwysig iawn i mi, ac fe wnes i ddysgu llawer ac ennill profiad gwerthfawr, ac roeddwn yn gwybod y byddai’r profiad yn fy helpu’n aruthrol wrth symud ymlaen. Gweithiais hefyd fel Cynorthwyydd Addysgu am 3 blynedd cyn dechrau gradd BSc mewn Astudiaethau Plentyndod. Ar ôl graddio, fe ddechreuais weithio fel Gweithiwr Cymorth Teuluoedd, a dyma’r cyfnod lle darganfyddais fy mod yn gwneud yr hyn roeddwn yn ei garu. Ar ôl cwblhau fy ngradd, fe ddechreuais weithio fel Swyddog Cymorth Teuluoedd, a dyma pryd sylweddolais mai dyma’r llwybr gyrfa i mi.
Symudais ymlaen i weithio mewn rôl debyg mewn sefydliad arall cyn dechrau gweithio fel Swyddog Cymorth Tenantiaeth, a oedd yn cynnwys elfen o gymorth cyflogadwyedd. Ro’n i wir wedi mwynhau’r elfen hon o’m gwaith; wrth i mi weld effaith uniongyrchol diweithdra ar fywydau unigolion, fe ges i fy ysbrydoli i ganolbwyntio mwy ar helpu pobl i sicrhau swyddi da, felly ceisiais gyfleoedd i arbenigo yn y sector hwn. Dyna sut y des i ar draws hysbyseb swydd Hyfforddwr Gyrfa gyda Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol. Ymgeisiais am y swydd ac roeddwn i’n llwyddiannus! Mae gweithio mewn tîm angerddol a chefnogol sy’n gweithio gyda’i gilydd yn wych er mwyn helpu eu cleientiaid i lwyddo yn rhoi boddhad mawr i mi.
Ym mha ffordd mae dy lwybr gyrfa wedi datblygu?
Wrth edrych ôl ar fy ngyrfa, rwy’n hapus gyda’r cynnydd rydw i wedi’i wneud a’r ffordd rydw i wedi datblygu’n bersonol ac yn broffesiynol. Mae pob un o’r camau ar newidiadau gyrfaol rydw i wedi eu profi wedi gwella fy sgiliau ac wedi datblygu gwahanol ardaloedd o waith. Mae gweithio gydag ystod eang o bobl wahanol mewn amrywiaeth o rolau yn sicr wedi bod yn brofiad gwerthfawr iawn i mi. Dw i hefyd yn hynod o ddiolchgar fy mod wedi ymgymryd â llawer o hyfforddiant chyfleoedd datblygu, gan gynnwys cwblhau NVQ mewn Arwain a Rheoli, sydd wedi bod o fantais i mi yn fy swydd. Mae hyfforddiant a datblygiad yn rhan allweddol o yrfa unrhyw un, ac rydw i’n awyddus i barhau i ddysgu a gwella mewn unrhyw ffordd y gallaf. Dyma yw un o fy mhrif ganllawiau – os ydych chi’n cael cyfle i wella’ch sgiliau neu i ddatblygu’ch profiad, manteisiwch i’r eithaf ar y cyfle hwnnw; does dim dal pwy y byddwch yn cwrdd â nhw, a’r hyn y byddwch yn ei ddysgu ar hyd y ffordd. Mae fy mhrofiad i wedi bod yn bositif iawn!
Wyt ti’n difaru gwneud unrhyw benderfyniadau gyrfa?
Dw i ddim yn difaru llawer o bethau, ond hoffwn pe bawn wedi mynd i’r brifysgol yn gynt er mwyn parhau â’m cwrs, oherwydd sylweddolais flynyddoedd yn ddiweddarach pa mor bwysig oedd y cymwysterau hyn mewn perthynas â’r yrfa a ddewiswyd gennyf. Hawdd yw teimlo’n ddiolchgar, ond mae ôl-ddoethineb yn beth hyfryd. Rwy’n falch fy mod wedi mynd yn ôl i gwblhau fy addysg (yn y pendraw!), gwell hwyr na hwyrach! Pe bawn i’n cael cyfle i wneud pethau yn wahanol, byddwn wedi dewis cwrs roedd gen i wir ddiddordeb ynddo ac angerdd amdano; dw i’n sylweddoli nawr fy mod yn dwlu ar ddarparu cymorth datblygiad personol i oedolion. Fodd bynnag – cymerodd lawer o amser a phrofiadau gwahanol imi gyrraedd y pwynt hwn. Rwy’n hapus iawn yn fy swydd bresennol, ac mae fy rolau diweddaraf yn cyd-fynd â’r hyn rwyf am ei wneud yn y dyfodol. Y prif beth rwy’n dweud wrthyf fy hun yw nad yw hi byth yn rhy hwyr i newid; gallwch chi ddim troi’r cloc yn ôl, fel petai, ond gallwch yn sicr wneud newidiadau positif i’ch bywyd ar unrhyw adeg.
A wnaeth dy lwybr gyrfa newid cyfeiriad ar ôl i ti gael plant?
Mae cael plant yn sicr wedi newid cyfeiriad fy llwybr gyrfa a’m uchelgeisiau er gwell, oherwydd nawr mae gen i ysfa i lwyddo ac i fod yn fodel rôl i’m plant. Rwy’n benderfynol o ddangos iddyn nhw bod gwaith caled a dyfal barhad yn talu ar ei ganfed yn y pendraw. Gallwch wireddu eich nodau gyrfa, hyd yn oed os ydynt yn newid rhyw ychydig ar hyd y ffordd. Does dim ffodd cywir nac anghywir o greu gyrfa lwyddiannus. Gwnewch bopeth yn eich ffordd eich hun, ac os ydych chi yn hapus, dyna i gyd sy’n bwysig.
Oes un peth yr hoffet ti fod wedi ei wybod pan oeddet ti’n iau?
Hoffwn pe bawn wedi gwybod mai fy newis i oedd fy llwybr gyrfa ac wedi cymryd rheolaeth lawn ohono. Ar ôl dilyn llwybr gofal plant am sbel fach, sylweddolais nad oeddwn am barhau i weithio yn y maes, felly penderfynais weithio mewn sector arall. Rwy’n adnabod fy hun yn well nag unrhyw un, a hoffwn pe bawn wedi aros yn driw i’m hun yn gynharach yn fy ngyrfa ac wedi dilyn fy ngreddf. Mae hi wedi cymryd cryn dipyn o amser i mi sylweddoli hyn ac i fagu digon o hyder i ymddiried yn fy mhenderfyniadau fy hun; mae’r llwybr yn droellog iawn, ond rwy’n bendant yn mynd i’r cyfeiriad cywir!
Awgrymiadau defnyddiol ar gyfer ymgeisio am swyddi?
Mae gen i gymaint ohonyn nhw! Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y swydd ddisgrifiad yn drylwyr, a sicrhewch eich bod sgiliau a’ch rhinweddau personol yn addas ar gyfer y rôl. Byddwch yn uchelgeisiol, ond byddwch yn glir ac yn gryno yn y wybodaeth rydych chi’n ei chynnwys; rhaid i’r wybodaeth fod yn glir ac yn hawdd i’w ddeall, peidiwch â gor-ddweud na defnyddio ieithwedd anghyfarwydd neu arbenigol. I fi, yr un hen bethau sy’n bwysig bob tro – byddwch yn driw i chi eich hun ac yn hyderus yn eich gallu; os ydych chi wir eisiau rôl ac yn credu gallwch chi wneud gwaith da o fewn y rôl, yna mae’n rhaid i chi bwysleisio hyn yn eich cais ac yn y cyfweliad. Rhaid ichi fod yn onest, yn gredadwy ac yn angerddol am gyflawni eich nodau. Os ydych chi’n credu y gallwch fynd amdani, gwnewch i eraill gredu’r un peth â chi.
Cyngor gorau?
Peidiwch ag ofni methiant, a cheisiwch bob tro i symud ymlaen o unrhyw gamgymeriadau; wynebwch nhw, dysgwch wersi, a cheisiwch eich gorau i beidio â’u hailadrodd. Mae camgymeriadau yn profi eich bod yn ceisio gwneud rhywbeth, ac yn cwympo’n brin achos nad yw’ch gorau yn ddigon da. Dyw hi byth yn rhy hwyr i ddechrau o’r newydd; os ydych yn benderfynol o gyflawni rhywbeth, gallwch wneud yn union hynny!
Mae Hayley yn gweithio fel Hyfforddwr Gyrfa i Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol. Os hoffech ragor o wybodaeth am y gefnogaeth y mae ein Hyfforddwyr Gyrfa yn ei ddarparu, cysylltwch â’r tîm trwy ffonio 01792 284450.