Gweithiwr Glanhau Diwydiannol

Port Talbot
£9.71 yr awr
Amser Llawn
31.03.23

Rydym yn chwilio am Weithwyr Glanhau Diwydiannol dan Hyfforddiant i gefnogi’r Isadran Ddiwydiannol yng Ngwaith Dur Port Talbot. Mae’r rolau yn rhai cyfnod penodol (12 mis) a bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus gyfle i sicrhau contractau hirdymor amser llawn. Dyma gyfle gwych i ddechrau gyrfa ym maes Gwaith Dur a bydd gan yr ymgeiswyr llwyddiannus gyfle gwirioneddol i gyflawni dilyniant a datblygiad personol. Bydd hyfforddiant, dillad gwaith a chyfarpar diogelu personol yn cael eu darparu.

Fel rhan o’r contract 12 mis, byddwch yn astudio cymhwyster a bydd eich ymweliadau yn cynnwys sesiynau mewn gweithdai, sesiynau holi ac ateb ac arsylwadau dydd-i-ddydd i greu portffolio. Dyletswyddau cyffredinol: cydymffurfio â rheoliadau iechyd a diogelwch; gwaith glanhau a labro diwydiannol; glanhau peiriannau; codi a chario; defnyddio peiriannau glanhau â dŵr; rhoi gwybod i unigolion perthnasol pan fo damweiniau’n digwydd/ar fin digwydd.

Bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus gymwysterau TGAU, yn ffit yn gorfforol ac yn barod i sefyll arholiad camddefnyddio sylweddau ac archwiliad meddygol. Ni fydd gennych gymhwyster mewn Rheoli Cyfleusterau na Glanhau ar hyn o bryd ac ar ôl cwblhau cymhwyster Lefel 2, bydd disgwyl i chi symud ymlaen i astudio Lefel 3.

Am ragor o wybodaeth neu os hoffech ymgeisio ar gyfer y rôl hon, ffoniwch 01792 284450 neu e-bostiwch: info@betterjobsbetterfutures.wales