Annog pobl ifanc i ddweud eu dweud am ymgysylltu a dilyniant ieuenctid yng Nghymru


Annog pobl ifanc i ddweud eu dweud am ymgysylltu a dilyniant ieuenctid yng Nghymru
Beth yw FfYDI a phwy sy‘n elwa o’r prosiect?
Cafodd y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid (FfYDI) ei ddatblygu yn 2013. Bwriad y rhaglen yw cefnogi rhagor o bobl ifanc yng Nghymru i ymgysylltu a symud ymlaen mewn perthynas ag addysg, hyfforddiant a chyflogaeth. Nod y FfYDI yw gwella profiad dysgu pobl ifanc a’u helpu i symud ymlaen i fyd gwaith. Wrth wraidd y prosiect, mae anghenion pobl ifanc – sy’n eich galluogi chi i ddewis yr opsiwn gorau o ran dilyniant, beth bynnag fo’ch anghenion, eich galluoedd a’ch amgylchiadau.
Bwriad y FfYDI yw helpu pobl ifanc yng Nghymru (11 i 25 oed) sydd mewn perygl o dynnu yn ôl o addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth neu’r rhai sydd yn profi ffactorau a allai effeithio ar eu dilyniant. Gallai’r ffactorau hyn gynnwys: bod yn ofalwr ifanc; profi problemau sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl; problemau teuluol; bod mewn perygl o fod yn ddigartref; anghenion dysgu ychwanegol; byw mewn gofal. Yn amlwg, mae yna ffactorau eraill a allai effeithio arnoch – unrhyw beth sy’n eich atal rhag aros yn yr ysgol, coleg, hyfforddiant neu yn y gwaith.
Beth mae‘re FfYDI wedi’i gyflawni a beth sydd wedi newid ers ei gyflwyno?
Ers cyflwyno’r FfYDI, mae llai o bob ifanc wedi tynnu yn ôl o addysg, cyflogaeth a hyfforddiant. Mae hyn yn golygu bod mwy o bobl ifanc wedi aros yn yr ysgol, coleg, neu wedi parhau ar raglenni hyfforddiant sydd wedi’u cynllunio i’w helpu i symud ymlaen i swydd neu brentisiaeth. Mae sefydliadau’n gweithio gyda’i gilydd yn well er mwyn darparu gwasanaethau i bobl ifanc, ac mae gan y sefydliadau hynny well ddealltwriaeth o’r gefnogaeth sydd ar gael ym mhob ardal leol. Gall bobl ifanc, yn ogystal â’r unigolion sydd yn eu cefnogi, bellach, gyrchu gwybodaeth yn llawer haws.
Mae llawer o bethau wedi newid ers 2013. Mae gwasanaethau newydd megis Gweitho dros Gymru wedi cael eu cyflwyno i ddarparu cyngor i bobl ifanc ar sut i sicrhau a symud ymlaen o fewn cyflogaeth. Mae rhai o’r anawsterau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu wedi newid, hefyd, a gwyddom fod rhai o’r heriau hyn, megis iechyd meddwl a lles, wedi’u hamlygu fwyfyth o ganlyniad i Covid-19. Mae dulliau newydd bellach ar waith i ddarparu cymorth i bobl ifanc sy’n wynebu heriau megis problemau iechyd meddwl ac unigolion sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, a defnyddir gwaith ieuenctid hefyd fel ffordd o ddarparu’r gwasanaethau hyn. Mae pandemig Covid-19 hefyd wedi cael effaith fawr ar brofiad pobl ifanc o addysg a hyfforddiant, yn ogytsal â’r cyfleoedd cyflogaeth sydd ar gael iddynt.
Dyma pam mae Llywodraeth Cymru yn adolygu’r FfYDI, a dyma pam, hefyd, rydym am glywed eich barn chi!
Sut alla i wneud gwahaniaeth?
Rydym am glywed barn pobl 11-25 oed ledled Cymru, er mwyn siapio a llunio cymorth y rhaglen ar gyfer y dyfodol. Rydym eisiau clywed eich profiadau chi o’r cymorth rydych wedi ei dderbyn i’ch helpu i aros mewn addysg neu hyfforddiant neu symud ymlaen i gyflogaeth. Rydym am ddarganfod beth sydd yn gweithio a’r hyn nad yw’n gweithio, ac am wybod beth sydd eisiau ei ddiweddaru, beth sydd ar goll, ond yn bwysicach oll, beth allwn ni ei wneud i ymgysylltu â phobl ifanc.
Ydych chi am siapio’r cymorth sy’n cael ei gynnig i bobl ifanc trwy’r FfYDI? Os felly, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!
Gallwch gyflwyno eich adborth trwy e-bostio’r cyfeiriad e-bost isod. Pe bai’n well gennych gyflwyno eich adborth trwy sgwrsio ag aelod o’n tîm, cysylltwch â ni drwy ffonio 01792 284450.
Mae’r ffurflen hon i bobl ifanc 25 oed neu iau. Os ydych chi’n hŷn na 25 ac yn dymuno rhoi adborth, cliciwch yma: ffydi@gcs.ac.uk