Farhana Ali
“Canolbwyntiwch ar yr hyn rydych chi’n gallu ei wneud, a gweithiwch ar yr hyn na allwch ei wneud”
Pa ffurf gymerodd dy yrfa ar ôl addysg?
Yn y Coleg fe astudiais gyrsiau Safon Uwch mewn busnes, Mathemateg a TGCh, ond sylweddolais yn gyflym nad oedd y brifysgol yn addas i mi; ro’n i am fynd yn syth i fyd gwaith yn lle mynd i’r brifysgol, yn wahanol i fy ffrindiau. Llwyddais i sicrhau cyfle gwych fel Prentis Adnoddau Dynol mewn Coleg Addysg Bellach, ac fe wnaeth hyn ddarparu amgylchedd dysgu perffaith i mi; Ro’n i’n medru ennill profiad ymarferol a sgiliau allweddol, ochr yn ochr â dysgu am AD a phrosesau recriwtio. Fe wnes i fwynhau’r rôl hon yn fawr iawn, yn enwedig gweithio’n agos â myfyrwyr, gan eu cefnogi i ddod o hyd i gyfleoedd lleoliad gwaith a oedd yn berthnasol i’w hastudiaethau. Ro’n i’n gallu uniaethu â’r myfyrwyr a deall eu hansicrwydd o ran eu camau nesaf, gan fy mod i wedi bod yn eu sefyllfa nhw, blynyddoedd ynghynt. Yn y rôl, ces gyfle i wneud gwahaniaeth ystyrlon i fywydau unigolion ac roeddwn i’n cael boddhad mawr wrth helpu pobl i archwilio opsiynau byd gwaith a gwireddu eu potensial. I bob pwrpas dyma oedd dechrau fy nhaith gyrfa gan mai dyma lle dechreuodd fy angerdd am ddarparu cymorth a chyngor ar gyflogadwyedd i bobl! Erbyn diwedd y brentisiaeth, ces gynnig swydd amser llawn yn y Coleg ac fe wnes i dderbyn y cyfle hwn; ro’n i wedi dysgu cymaint mewn cyfnod byr ac ro’n i wedi magu hyder, yn barod i’r heriau newydd ro’n i ar fin eu profi. Ochr yn ochr â’r rôl, ces gyfle hefyd i gwblhau cwrs Lefel 4 mewn Dysgu Gydol Oes, a alluogodd fi i gwblhau cymhwyster lefel gradd wrth weithio’n llawn amser. Dw i’n falch iawn o’r cyflawniad hwn oherwydd ces i’r cyfle i addysgu cyrsiau byd yn y Coleg ar Gyfrifon Cyfrifiadurol Sage, ochr yn ochr â fy rôl AD, ac fe wnaeth hyn wella ymhellach fy sgiliau a chyflymu fy natblygiad personol.
Ym mha ffordd mae dy yrfa wedi datblygu?
Ar ôl 5 mlynedd o weithio i’r Coleg, fe symudais i Abertawe a dechrau chwilio am swydd, gan ddefnyddio fy ngwybodaeth recriwtio a fy mhrofiad; er hyn, fe wnes i adleoli yn ystod cyfnod prysur a chystadleuol iawn i’r farchnad gyflogaeth, ond, llwyddais i sicrhau swydd AD gyda Heddlu Dyfed Powys. Roedd y rôl hon yn newid byd llwyr; sylweddolais faint y gallai prosesau a systemau recriwtio amrywio rhwng sefydliadau a sectorau, ac roedd gweithio gyda’r heddlu yn wahanol iawn i weithio i goleg. Roedd sawl proses recriwtio, canolfannau asesu, prosesau hir a gwahaniaeth enfawr yn y broses gyfweld. Er bod hon yn her anodd i ddechrau, fe wnaeth i mi werthfawrogi anghenion a gofynion gwahanol sefydliadau yn ogystal â rhinweddau a gofynion gwahanol rolau mewn sectorau amrywiol. Ar ôl i mi setlo yn rôl, fe fwynheais fy swydd yn fawr iawn ac ro’n i’n ddiolchgar iawn am y cyfle i weithio’n agos â gwirfoddolwyr a oedd yn chwilio am brofiad gwaith. Ces i hefyd fewnwelediad i’r ystod o rolau gwahanol o fewn yr heddlu. Roedd gweithio gyda gwirfoddolwyr wedi fy ngalluogi i ddarparu cymorth i’r rhai oedd â diddordeb mewn plismona, a’u helpu i oresgyn unrhyw rwystrau sy’n gysylltiedig â’r broses recriwtio. Roedd gan lawer o’r unigolion hyn sgiliau da iawn a mwy o brofiad na’r hyn oedd ei angen, ond roedd rhai ohonyn nhw’n cael trafferth ar wahanol gamau o gyflwyno cais; ro’n i wrth fy modd yn gweithio’n agos gyda’r unigolion hyn, gan feithrin hunangred a’u cefnogi i oresgyn eu heriau. Ro’n i’n medru chwarae rhan fach wrth drawsnewid bywydau pobl er gwell, ac fe wnaeth yr elfen hon o fy rôl atgyfnerthu fy angerdd am gefnogi pobl mewn angen.
Ar ôl cyfnod mamolaeth, penderfynais gymryd cyfnod i ffwrdd o’r gwaith i dreulio amser gyda fy nheulu ac osgoi teithio yn ôl ac ymlaen bob dydd. Fodd bynnag, ar ôl cyfnod byr, fe es i yn ôl i fyd gwaith trwy gyflwyno cais llwyddiannus i weithio fel Hyfforddwr Gyrfa gyda Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol. Ar ôl 3 blynedd yn y rôl, dw i’n dal i garu pob peth am fy swydd, yn enwedig cwrdd â phobl newydd sy’n tanbrisio eu potensial; mae newid ffordd pobl o feddwl a’u helpu i gredu ynddyn nhw eu hunain yn wych, ac mae gwylio cleientiaid yn gwneud newidiadau positif (anghredadwy, weithiau) i’w bywydau yn fy nghadw’n frwdfrydig bob dydd.
Wyt ti’n difaru unrhyw benderfyniadau gyrfa?
Dw i ddim yn hoff o ddifaru unrhyw benderfyniadau dw i wedi eu gwneud gan fod pob profiad yn eich helpu i dyfu fel person. Mae rhai o’r penderfyniadau ‘gwael’ dw i wedi eu gwneud wedi fy helpu i sylweddoli beth rydw i eisiau ei wneud o ran fy ngyrfa, a sut rydw i’n gallu ychwanegu gwerth i’r hyn rwy’n ei wneud; mae pob profiad wedi dysgu rhywbeth i fi. Rydyn ni dim ond yn difaru’r cyfleoedd na wnaethon ni eu cymryd, a’r penderfyniadau na wnaethon ni!
Awgrym pwysicaf wrth ymgeisio am swyddi?
Cadw cofnod o’r holl sgiliau a’r profiadau rwyt ti’n ennill mewn pob rôl; treulia amser yn cofnodi dy ddyletswyddau, y sgiliau newydd rwyt ti wedi’u dysgu a’r profiadau gwerthfawr ac unigryw rwyt ti wedi eu hennill. Mae hyn yn haws i’w wneud ar y pryd ac mae’n werthfawr iawn o ran cael dealltwriaeth o dy hun. Mae hefyd yn ffordd o ganolbwyntio ar dy gryfderau a’r dyletswyddau sydd wedi dy ganiatáu i wneud cyfraniad positif i’r rôl, y tîm a’r sefydliad ehangach.
Dy awgrym euraidd oll?
Mae pethau da yn cymryd amser – dal ati i geisio gwireddu dy freuddwydion a chanolbwyntia ar y broses, nid y canlyniadau. Os wyt ti’n cael trafferth, cer i gael cyngor ac adborth gan bobl sy’n agos i ti, a gwna’r mwyaf o bob math o help ar hyd y ffordd. Bydd y dewisiadau a’r penderfyniadau anodd yn cyd-fynd â dy bersonoliaeth a phwy rwyt ti am fod; pan nad oes dim yn glir, mae unrhyw beth yn bosib!