Cynorthwyydd mewn Meithrinfa – Prentis
Yr Uplands & Threforys
£4.81 yr awr, ICC o flwyddyn 2 ymlaen
Amser Llawn
30.04.23
Dyma gyfle gwych i weithio i feithrinfa adnabyddus a chlodfawr. Byddwch yn gweithio â phlant ifanc – babis 6 mis oed i blant ysgol – a bydd disgwyl i chi weithio ochr yn ochr â chydweithwyr cymwysedig i drefnu gweithgareddau chwarae dan do ac awyr agored, cynorthwyo gyda dyletswyddau toiled, sicrhau bod ystafelloedd yn ddeniadol a chroesawgar a chydymffurfio â gofynion Iechyd a Diogelwch. Byddwch yn barod i gynorthwyo staff gyda thasgau domestig e.e. paratoi bwyd, glanhau a gweithio mewn unrhyw un o ystafelloedd y feithrinfa i hwyluso’r gwaith ac ati.
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn dymuno dechrau gyrfa ym maes Gofal Plant ac ennill cymhwyster cydnabyddedig, neu symud ymlaen o Lefel i Lefel 2 (cymhwyster gofal plant). Dyma gyfle gwych i ymuno â thîm sefydledig a chyfeillgar.
Am ragor o wybodaeth neu os hoffech ymgeisio ar gyfer y rôl hon, ffoniwch 01792 284450 neu e-bostiwch: info@betterjobsbetterfutures.wales