Cynorthwyydd Gweinyddu

Fforestfach
£19,500 y flwyddyn
Amser Llawn
30.03.2023
Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig, positif a chwilfrydig sydd am ddatblygu sgiliau newydd o fewn diwydiant sy’n newid yn barhaus. Bydd ymgeiswyr delfrydol yn meddu ar frwdfrydedd, sgiliau rhyngbersonol da a’r gallu i weithio’n effeithiol mewn tîm. Bydd gennych sgiliau trefnu rhagorol, sgiliau cyfathrebu gwych ar lafar ac yn ysgrifenedig ynghyd â’r gallu i flaenoriaethu cwsmeriaid. Byddwch hefyd yn medru rhagori ar dargedau a osodir. Rhaid i chi fod yn gyfarwydd â defnyddio MS Office 365 (word, excel, outlook).

Does dim angen i chi feddu ar unrhyw gymhwyster penodol; fodd bynnag, bydd dyletswyddau’r ymgeisydd llwyddiannus yn cynnwys ateb y ffôn, cynnig gwasanaeth cwsmeriaid, ymdrin â chyflenwyr, cwblhau hawliadau am waith trwy’r feddalwedd, creu anfonebau, trefnu rhannau ac offer ar gyfer tasgau a threfnu dyddiaduron ar gyfer peirianwyr.

Rydym yn cynnig hyfforddiant llawn os oes angen, ynghyd â chyflog cystadleuol, cynllun pensiwn, 21 diwrnod o wyliau, gwyliau banc a phen-blwyddi (cyfanswm o 30 diwrnod o wyliau blynyddol), parcio am ddim ar ein safle a goramser.

Am ragor o wybodaeth neu os hoffech ymgeisio ar gyfer y rôl hon, ffoniwch 01792 284450 neu e-bostiwch: info@betterjobsbetterfutures.wales