Cynorthwyydd Gofal
Abertawe
£9.90 yr awr
Amser Llawn a Rhan Amser
18.04.23
Rydym yn chwilio am Gynorthwywyr Gofal ar hyn o bryd i ddarparu gofal a chefnogaeth i unigolion sydd â Dementia yn ein cartref.
Rydym yn gartref pwrpasol sydd ag enw da rhagorol o fewn y gymuned. Mae‘r cartref yn darparu gofal nyrsio ar gyfer hyd at 40 o bobl hŷn. Mae gofal personol a chyfranogiad mewn gweithgareddau yn rhannau allweddol o‘r rôl Cynorthwyydd Gofal, felly mae ynni, cyfathrebu rhagorol a sgiliau sefydliadol yn hanfodol. Byddai profiad blaenorol fel Cynorthwyydd Gofal neu Weithiwr Cymorth yn fuddiol, ond nid yw‘n hanfodol; Y cyfan rydyn ni’n ei ofyn yw bod gennych chi barodrwydd i ddysgu a‘r tosturi i ofalu am y bobl rydyn ni‘n eu cefnogi. Os ydych yn chwilio am yrfa werth chweil, hoffem glywed gennych.
Mae ein buddion i‘n Cynorthwywyr Gofal yn cynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Gwell darpariaeth cost datgelu
- Ymsefydlu ac ymrwymiad cynhwysfawr i hyfforddiant parhaus
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol yn cynnwys gwyliau banc
- Budd–daliadau ar–lein a gwobrau arian parod
- Cynllun beicio i‘r gwaith
- Opsiwn pensiwn SMART
Am ragor o wybodaeth neu os hoffech ymgeisio ar gyfer y rôl hon, ffoniwch 01792 284450 neu e-bostiwch: info@betterjobsbetterfutures.wales