Cynorthwyydd Gofal
Sgeti
£10.30 yr awr
Rhan-amser
30.03.23
Os ydych chi’n ofalgar, gweithgar, angerddol ac yn dymuno gweithio mewn cartref gofal sy’n hybu annibyniaeth, hapusrwydd a hwyl yn hytrach na thasgau ac arferion diflas, cysylltwch â ni i ddechrau eich taith newydd. Rydym yn chwilio am Gynorthwywyr gofal rhagorol i ymuno â thîm o Ofalwyr sy’n cynnig gwasanaeth gofal preswyl a gofal dementia rhagorol i unigolion dros 65.
Mae gennym enw da iawn ac rydym yn ymrwymedig i ddarparu gofal cyfannol o’r radd flaenaf, ond mae angen pobl angerddol ac ymroddedig arnom i gynnal safonau uchel ar gyfer ein preswylwyr, drwy’r dydd, bob dydd.
Mae dyletswyddau’n cynnwys dod i nabod ein preswylwyr; eu diddordebau a’u hanghenion; ymgymryd â dyletswyddau cadw cofnodion yn ddyddiol; helpu gyda gofal personol megis ymolchi, mynd i’r toiled a gwisgo, gweini prydau, diodydd a byrbrydau; ymgymryd â thasgau cyffredinol megis gwaith tŷ, golchi dillad a siopa. el rhan o’r rôl hon, bydd gofyn i ddeiliad y swydd weithio penwythnosau a gwyliau banc.
Am ragor o wybodaeth neu os hoffech ymgeisio ar gyfer y rôl hon, ffoniwch 01792 284450 neu e-bostiwch: info@betterjobsbetterfutures.wales