Cynorthwyydd Cegin
Sgeti
£10.30 yr awr
Rhan-amser
30.3.23
Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Cegin angerddol a phrofiadol i weithio ochr yn ochr â’n Cogyddion. Dewch i weithio i dîm cyfeillgar o bobl mewn Cartref Gofal. Fe fyddwch yn gyfrifol am baratoi a gweini brecwast i breswylwyr; cynorthwyo’r Cogydd gyda thasgau a sicrhau bod unrhyw waith paratoi angenrheidiol yn cael ei wneud ar gyfer y diwrnod canlynol.
Mae dyletswyddau hefyd yn cynnwys: cynnal hylendid y gegin; hybu cegin lân a hylan a chydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd y cwmni a gofynion cyfreithiol; defnyddio a storio stoc mewn modd priodol, rheoli a gwirio stoc yn ddyddiol ac yn fisol, ynghyd â chylchdroi stoc bwyd i leihau gwastraff; helpu i redeg y gegin yn ddyddiol, gan baratoi prydau a chadw ardaloedd yn lân er mwyn gweini.
Am ragor o wybodaeth neu os hoffech ymgeisio ar gyfer y rôl hon, ffoniwch 01792 284450 neu e-bostiwch: info@betterjobsbetterfutures.wales