Cogydd Commis
Abertawe
£5.82 – £10.42 yr awr yn dibynnu ar oedran
Amser Llawn ney Ran-amser
09.06.23
Rydym yn chwilio am Gogydd Commis i ymuno â’n tîm cegin llwyddiannus. Byddai’r rôl hon yn addas ar gyfer rhywun sy’n awyddus i ddatblygu ei sgiliau a’i yrfa ymhellach o fewn sefydliad sy’n cynnig bwyd o safon uchel iawn ac sy’n gwella ac arloesi’n barhaus.
Fel Cogydd y Commis, byddwch yn rhan ganolog o’r gwasanaeth – gan gynorthwyo gyda pharatoi prydau, trefnu cynhwysion a chadw’r gegin yn lân. Trwy adrodd i’r Chef de Partie a gweithio dan ei oruchwyliaeth, byddwch yn aelod allweddol o’r tîm. Mae’r swydd yn ffocysu’n helaeth ar sicrhau gweithrediad didrafferth a chyflawni gweithrediadau’r Gegin. Swydd lefel mynediad yw’r rôl hon a byddwch yn cael cyfle i symud ymlaen a datblygu eich sgiliau.
Byddwch yn gyfrifol am drefnu, cylchdroi stoc a labelu’r bwyd sy’n cael ei storio gan sicrhau bod yr holl waith gweinyddu ar gyfer eich adran wedi’i gwblhau a’i fod yn cydymffurfio â’r rheoliadau a osodwyd. Yn y rôl hon, byddwch yn sicrhau eich bod yn cydymffurfio â safonau Diogelwch Bwyd trwy weithredu safonau uchel mewn perthynas â hylendid a glanweithdra ym mhob man gwerthu bwyd.
Am ragor o wybodaeth neu os hoffech ymgeisio ar gyfer y rôl hon, ffoniwch 01792 284450 neu e-bostiwch: info@betterjobsbetterfutures.wales