Chef de Partie
Abertawe
£5.28 – £10.42 yr awr yn dibynnu ar oedran
Amser Llawn neu Ran-amser
09.06.23
Rydym yn chwilio am Chef de Partie brwdfrydig i fod yn aelod brwdfrydig o’r tîm i sicrhau bod ein cegin yn cael ei rhedeg yn ddi-ffwdan. Byddwch yn medru gweithio ym mhob adran yn ôl yr angen, gan ddilyn ryseitiau a manylebau. Yn ogystal, byddwch yn gallu cynnal gweithfan lân a chydymffurfio â safonau iechyd a diogelwch.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus angerdd am ragori ar ddisgwyliadau cwsmeriaid trwy ddarparu bwyd o ansawdd uchel mewn modd amserol ynghyd â ddealltwriaeth a gwerthfawrogiad o effeithlonrwydd costau. Rydym yn coginio popeth yn ffres felly bydd gofyn i chi feddu ar angerdd am gynhwysion ffres a blasau anhygoel a bydd gennych ymagwedd bositif. Byddwch yn atebol i’r Prif Gogydd a bydd gofyn i chi weithio ar eich liwt eich hun i oruchwylio’r gwaith o redeg y gegin pan nad yw’r prif gogydd yno.
Am ragor o wybodaeth neu os hoffech ymgeisio ar gyfer y rôl hon, ffoniwch 01792 284450 neu e-bostiwch: info@betterjobsbetterfutures.wales