Athro/Athrowes Nofio

Abertawe
hyd at £12.61 yr awr
Rhan Amser
30.03.23

Os ydych chi’n hoffi siarad â phobl, dyma’r rôl i chi yn bendant. Gallwn gynnig amgylchedd gweithio cyfeillgar sy’n dod â llawer o amrywiaeth bob dydd. Rydym yn deall nad yw ymgysylltu â chwsmeriaid a chydweithwyr mor hawdd ag y mae’n swnio ac weithiau’n dod gyda phrofiad. Byddwn ni’n darparu’r holl hyfforddiant sydd ei angen i fod yn Athro Nofio llwyddiannus ond credwn hefyd y gall cyflogi pobl o gymysgedd o gefndiroedd cyflogaeth gynnig budd ehangach i’n tîm, a gallai rhai ohonynt fod yn eu swydd gyntaf erioed ac angen mwy o gefnogaeth gan eu rheolwr a’u cydweithwyr. 

Yn rôl Athro Nofio, byddwch yn darparu gwersi nofio i gwsmeriaid o bob oed a gallu gan sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi ac yn cyflawni eu nodau. Os ydych chi am symud ymlaen ymhellach, byddwn yn cefnogi hyn drwy hyfforddiant ychwanegol, yn ffurfiol ac ar y swydd yn allweddol. Fodd bynnag, rydym hefyd yn gwerthfawrogi nad yw pawb am ‘symud i fyny’r ysgol’ ac mae hynny’n hollol iawn gyda ni. Yr hyn sy’n bwysig iawn yw eich bod chi’n hapus yn eich gwaith. 

Rydym yn croesawu ein cymuned leol amrywiol i’n canolfannau bob dydd ac rydym am adlewyrchu’r un cymysgedd amlddiwylliannol y tu mewn i’n busnes hefyd. Rydym yn ymdrechu i greu gweithle cynhwysol ac amrywiol lle gall pobl fod yn nhw eu hunain, cael yr un cyfleoedd a ffynnu gyda’i gilydd. Oherwydd gyda ni, rwyt ti o bwys! Gyda’n gilydd, rydyn ni’n gweithio i greu gweithle lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, waeth beth yw eu hoedran, hil, rhyw, anabledd neu gyfeiriadedd rhywiol. Ein nod yw bod yn gyflogwr dewis o fewn ein diwydiant ac rydym yn ymdrechu i wneud hyn bob dydd. 

Am ragor o wybodaeth neu os hoffech ymgeisio ar gyfer y rôl hon, ffoniwch 01792 284450 neu e-bostiwch: info@betterjobsbetterfutures.wales